Coodes, Cyfreithwyr, Truro
Cyn bo hir, gallai'r cwmni Coodes fod yn ffarwelio â dyddiau chwythu gweoedd corynnod o weithredoedd brau mewn storfa gefn.
Mae ymgyrch cofrestru gwirfoddol y cwmni yn golygu bod gweithredoedd cyn-gofrestru yn cael eu dychwelyd at gleientiaid, sy'n rhyddhau storfeydd gwerthfawr a lleihau costau.
"Mae gennym filoedd o weithredoedd yn casglu llwch", meddai Alistair Whyte, Pennaeth Adran Eiddo'r cwmni sy'n 250 o flynyddoedd oed. "Maen nhw wedi bod yna ers cyn cof.
"Y perygl yw na fydd neb yn edrych arnynt am y 200 mlynedd nesaf."
Mae cofrestru gwirfoddol yn helpu i osgoi'r perygl hwnnw yn ogystal â chynnig manteision eraill. Mae Alistair yn ei ddisgrifio, er enghraifft, fel "cyfle gwych i gysylltu â'n cleientiaid".
"Mae darparu sicrwydd teitl, gyda chefnogaeth y llywodraeth, yn wasanaeth i'r cleient," meddai Alistair sy'n un o fwy na 150 o staff yn gweithio mewn saith cangen yng Nghernyw a Dyfnaint.

