Dugiaeth Caerhirfryn
Mae Dugiaeth Caerhirfryn yn olrhain ei gwreiddiau yn ôl i 1265 pan roddwyd y tir fel grant gan y Brenin Henry III i'w fab Edmund. Ar hyn o bryd mae'r ystad yn werth tua £341 miliwn ac mae'n cael ei gweinyddu ar ran y brenin neu frenhines gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn a'r Clerc i'r Cyngor. Mae ei 18,500 o hectarau ar draws Cymru a Lloegr yn amrywio o'r Ystad Savoy yn Llundain i Ystad Goathland yn Swydd Gaerefrog gan gynnwys datblygiadau trefol, adeiladau hanesyddol, tir amaeth ac ardaloedd harddwch naturiol. Mae'r ystad yn ariannu ei hun yn llwyr.
Dechreuodd y rhaglen gofrestru gyda thir arfordirol y Ddugiaeth, fel mae Prif Weithredwr Paul Clarke yn esbonio. "Yn ogystal ag ystadau amaethyddol helaeth ac ystadau eraill yng Nghymru a Lloegr, mae gan y Ddugiaeth deitl i ardaloedd blaendraeth sylweddol a hefyd buddion yn y mwynau rhwng ffiniau gogleddol a deheuol pellaf Swydd Breiniarll Gaerhirfryn," meddai.
"I reoli'r buddion hyn yn effeithiol mae'n angenrheidiol cadw cofnodion cywir a manwl, y gellir eu diweddaru yn ôl y galw. Mae'n ofynnol yn ôl deddfwriaeth bod y Gofrestrfa Tir yn cyflwyno'r rhybudd priodol i'r swyddfa hon os derbynnir unrhyw gais am gofrestriad cyntaf tir a all gynnwys neu ymylu ar flaendraeth."

