MFG, Cyfreithwyr, Telford

Nid oedd gan Celia Tildesley unrhyw amheuon wrth argymell cofrestru Eglwys Gadeiriol Lichfield pan wahoddwyd ei chwmni i gynghori'r deon a chabidwl ynghylch rheoli'r ystad.

"Roedd yr eglwys gadeiriol yn gwerthu darn bach o eiddo ac yn gorfod mynd trwy'r ffwdan o ddatganiadau statudol am nad oedd unrhyw weithredoedd ar gael," meddai Celia sy'n Bartner gyda'r cyfreithwyr MFG LLP yn Telford.

"Pan gwrddais â David Wallington, gweinyddwr yr eglwys gadeiriol, awgrymais y dylai'r deon a'r cabidwl ystyried cofrestru gan y byddai hyn yn hwyluso holl drafodion y dyfodol. Esboniais y byddai strategaeth y Gofrestrfa Tir o annog cofrestriad cyntaf gwirfoddol teitl yn gymorth gyda chais o'r fath."

Cwblhawyd y cofrestriad ymhen ychydig o fisoedd yn unig a dim ond £525 oedd y ffi am gofrestru, diolch i'r gostyngiad o 25 y cant sy'n cael ei gynnig gan y Gofrestrfa Tir am gofrestriadau cyntaf gwirfoddol.

1 | 2 | 3
llun o'r awyr - toeau tai
© Hawlfraint y Goron              Telerau ac amodau