Thring, Townsend, Lee & Pembertons, Caerfaddon

Mae David Lewis wedi gweld y goleuni o blaid cofrestru gwirfoddol.

"Mae fy mhrofiad i ym maes trawsgludo digofrestredig," meddai David, sy'n ymgynghorydd gyda'r arbenigwyr ystad ac eiddo Thring Townsend Lee & Pembertons. "Yn fy nyddiau cynnar, ychydig o amser oedd gen i ar gyfer cofrestru tir.

"Fodd bynnag rwyf wedi gweld y goleuni nawr ac rwy'n frwdfrydig iawn dros gofrestru."

Mae agwedd newydd David yn seiliedig ar ei yrfa o fwy na 40 o flynyddoedd ac yn fwy diweddar, ei brofiad o ailadfer teitlau lle collwyd gweithredoedd a datrys problemau a achoswyd gan drawsgludo digofrestredig "blêr" yn y 70au a'r 80au.

Dyma fanteision cofrestru gwirfoddol yn ei farn:

  • Ni fydd colli gweithredoedd yn achosi problemau yn y dyfodol.
  • Mae'n sicrhau bod yr holl faterion perthnasol, gan gynnwys hawliau pysgota, saethu a mwyngloddio ar y gofrestr.
  • Mae'n gwarchod yn well yn erbyn meddiant gwrthgefn.
  • Mae'n manteisio ar wybodaeth y perchennog cyfredol, na fyddai ar gael pe byddai cofrestru gorfodol yn digwydd ar ôl marwolaeth y perchennog.
  • Mae'n elwa ar arbenigedd tîm datblygu'r gofrestr y Gofrestrfa Tir i ddatrys problemau gyda chynlluniau sydd wedi cael eu llunio'n wael.
1 | 2 | 3
llun o'r awyr - traffordd
© Hawlfraint y Goron              Telerau ac amodau