Veale Wasbrough

Mae'n rhaid bod cofrestru 700 milltir o rwydweithiau o biblinellau trawsgwlad yn cyfrif fel un o brosiectau cofrestru tir mwyaf cymhleth y blynyddoedd diweddar.

Veale Wasbrough o Fryste ysgwyddodd y gwaith ar ôl gweithredu ar ran nifer o gwmnïau piblinell olew ers llawer o flynyddoedd.

"Roedd yn dipyn o her ar y dechrau," meddai Andrew Moon, Uwch Gynorthwy-ydd Cyfreithiol yn Veale Wasbrough, sy'n gweithredu ar ran cleientiaid ledled y wlad ym meysydd eiddo, corfforaethol, cyhoeddus, addysg a gofal iechyd.

"Gyda mwy na 100 o flychau o hawddfreintiau a phrydlesi, roedd yn brosiect sylweddol. Wrth i'r gwaith fynd rhagddo, daeth yn glir pa ganran o'r buddion yn gysylltiedig â phiblinellau oedd yn gofrestredig eisoes."

Roedd dau gymhelliad tu ôl i'r prosiect cofrestru – cynyddu ymwybyddiaeth perchnogion tir i'r eithaf a chael y warchodaeth gyfreithiol orau.

"Wrth i'r gyfraith newid ychydig o flynyddoedd yn ôl, peidiodd rhai dosbarthiadau o fuddion â bod yn fuddion gor-redol," meddai Tim Smithers, Partner yn Veal Wasbrough.

1 | 2 | 3
Veale Wasbrough
© Hawlfraint y Goron              Telerau ac amodau