Back to home page To Welsh language site
Prisiau tai
Cofrestru'ch tir
e-drawsgludo
Addysg a hyfforddiant
Eich hawliau gwybodaeth
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
E-wasanaethau
Land Registry Direct
Find a property

Cynllun 10 mlynedd Contents Previous Next

Crynodeb yw hwn o'r cynllun 10 mlynedd llawn. Mae'r cynllun llawn ar gael i'w lwytho i lawr fel PDF.

Croeso i gynllun strategol 10 mlynedd y Gofrestrfa Tir

Ein cenhadaeth yw darparu'r gwasanaeth gorau yn y byd ar gyfer gwarantu perchnogaeth tir a hwyluso trafodion eiddo. Mae'r cynllun strategol 10 mlynedd hwn yn esbonio sut bydd y Gofrestrfa Tir yn cyflawni ei chenhadaeth.  Mae'r cynllun yn disgrifio'r gwaith y bydd y Gofrestrfa Tir yn ei gwblhau tan 2017. Rydym wedi gosod pump amcan strategol - pob un yn her - i'w cyflawni dros y 10 mlynedd nesaf. Fe'u rhestrir isod.

  1. Parhau i wella'r ffordd rydym yn cyflenwi'n gwasanaethau i'r holl fudd-ddeiliaid
  2. Cyflenwi deddfwriaeth eilaidd amserol ac effeithiol mewn perthynas â chofrestru tir
  3. Creu cofrestr tir gynhwysfawr ar gyfer Cymru a Lloegr
  4. Cyflwyno system drawsgludo electronig a fydd yn gyfrwng cyflawni'r rhan fwyaf o drafodion eiddo
  5. Datblygu amrywiaeth ehangach o wasanaethau ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes eiddo, y cyhoedd ac eraill

Bwriadwn ddelio â'r ddau amcan strategol cyntaf trwy wella'n gwasasnaethau'n gyson a sichrau bod ein deddfwriaeth yn gyfoes ac yn bodloni anghenion ein holl fudd-ddeiliaid. Bwriadwn gyflawni amcan strategol 3 yn ystod y ddeng mlynedd  nesaf trwy ymrwymo i gwrdd â tharged uchelgeisiol o gofrestru nifer penodol o hectarau ychwnanegol am y tro cyntaf bob blwyddyn. Byddwn yn cyflawni amcanion strategol 4 a 5 yn raddol trwy gyflwyno gwasanaethau a systemau cyflenwi gwasanaethau newydd bob blwyddyn.

Mae'r rhaglen hon yn anodd. Ond byddwn yn llwyddo oherwydd ein bod yn teimlo'n frwd ynglŷn â gwneud trafodion eiddo yn haws i bawb. Dyma'n gweledigaeth.

Gyda’r gronfa ddata eiddo fwyaf yn y byd, o fwy nag 21 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy warchod perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd. Mae eiddo gwerth tua £1 miliwn yn cael ei brosesu bob munud yng Nghymru a Lloegr. Ein dymuniad yw rhoi'r Gofrestrfa Tir wrth wraidd y farchnad eiddo fwyaf effeithlon yn y byd. Bydd y Gofrestrfa Tir yn gwneud y farchnad hon yn dryloyw trwy helpu prynwyr a gwerthwyr gyda’r hyn sy’n debygol o fod yn drafodiad pwysicaf eu bywyd. Marchnad eiddo y mae pawb yn gallu hyderu ynddi am eu bod yn gwybod beth sy'n digwydd.

Gobeithiwn y byddwch yn rhannu'n gweledigaeth ac y byddwch yn mwynhau ein gweld yn gwneud gwahaniaeth.

'Gwneud trafodion eiddo yn haws i bawb'

Peter Collis
Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr
Ebrill 2007