Prif Amcanion y Gofrestrfa Tir Wrth geisio cyflawni ein cenhadaeth, prif amcanion y Gofrestrfa Tir yw: - cynnal a datblygu system gofrestru tir sefydlog ac effeithiol trwy Gymru a Lloegr fel y conglfaen ar gyfer creu buddion mewn tir a symudiad rhydd y buddion hynny;
- ar ran y Goron, gwarantu teitl i ystadau cofrestredig a buddion mewn tir ar gyfer Cymru a Lloegr cyfan;
- darparu mynediad hwylus i wybodaeth gyfoes a gwarantedig am dir er mwyn gallu delio'n hyderus mewn eiddo a gwarantu teitl;
- darparu gwasanaeth Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol.
|