Ein Hymagwedd Strategol Ym Mehefin 2001, cafodd ein Hadroddiad Adolygiad Pum Mlynedd ei gyhoeddi. Roedd adolygiad annibynnol y llywodraeth yn gwneud argymhellion ynghylch sut y gallai'r Gofrestrfa Tir wneud gwelliannau tymor hir i'r gwasanaethau a ddarparwn. Ar ôl cynnal ymgynghoriad helaeth â staff, budd-ddeiliaid a chwsmeriaid cytunwyd ar strategaeth tymor hir uchelgeisiol sy'n cynnwys pob un o argymhellion priodol yr adroddiad Pum Mlynedd. Yn dilyn cymeradwyaeth y Gweinidogion, lansiodd y Gofrestrfa Tir y cynllun strategol 10 mlynedd yn swyddogol ar 28 Mai 2002. Er mwyn i'r cynllun strategol barhau i fod yn heriol ac yn berthnasol, mae Bwrdd Cyfarwyddwyr y Gofrestrfa Tir wedi penderfynu y dylai’r cynllun strategol 10 mlynedd fod yn ddogfen 'dreigl'.Mae hyn yn golygu wrth i un flwyddyn gael ei chwblhau mae blwyddyn arall yn cael ei hychwanegu. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i edrych i'r dyfodol, ac yn gallu ceisio rhagweld, a gwneud trefniadau priodol ar gyfer y newidiadau hynny sydd o'n blaenau a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar lunio ein cyfeiriad yn y dyfodol. Yn dechrau eleni bydd y Cynllun Strategol yn cael ei gefnogi gan lasbrint a fydd yn disgrifio cynlluniau'r dyfodol yn fwy manwl. Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr y Gofrestrfa Tir yn adolygu ac yn ailgyhoeddi'r cynllun strategol ar ddechrau pob blwyddyn ariannol.Mae ein Gweinidogion yn rhoi sêl eu bendith i bob diwygiad i'r cynllun a dyma’r pedwerydd adolygiad. Byddwn yn paratoi cynlluniau busnes blynyddol i ddwyn ynghyd pob un o'r targedau perfformiad allweddol penodol, amcanion busnes a phwyntiau gweithredu ar gyfer pob un o'r 10 blwyddyn ariannol sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun strategol hwn. Bydd ein cynllun busnes blynyddol ar gael ar-lein yn gynnar ym mhob blwyddyn ariannol. |