www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Strategaeth

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cynllun 10 mlynedd Sut mae'n dod at ei gilydd? Contents Previous Next

    Y cynllun strategol 10 mlynedd – sut mae popeth yn dod at ei gilydd?

    Mae gan bob rhan o’r busnes, a ddynodir yn felyn yn y model, strategaeth tymor hir i gynllunio ar gyfer cyfnod 10 mlynedd y cynllun hwn. Enw’r rhain yw strategaethau swyddogaethol a gallwch ddarllen am bob un ohonynt yn y cynllun hwn.

    Mae pob strategaeth yn disgrifio beth fyddwn yn ei wneud yn y maes penodol hwnnw o’r busnes yn ystod y 10 mlynedd nesaf, sut bydd y gweithgareddau hyn yn gwella’n gwasanaethau a’r amserlenni rydym wedi’u gosod i wneud y gwaith hwn.

    Unwaith maent wedi’u cwblhau, bydd y 14 strategaeth swyddogaethol hyn yn sicrhau bod y Gofrestrfa Tir yn llwyddo yn ei chenhadaeth i ddarparu’r gwasanaeth gorau yn y byd ar gyfer gwarantu perchnogaeth tir a hwyluso trafodion eiddo.

    Yn ogystal â chynnal ein safonau presennol o wasanaeth cwsmeriaid ac effeithlonrwydd ariannol, mae’r cynllun strategol yn anelu at wella’r gwasanaethau presennol a datblygu gwasanaethau newydd er budd ein holl gwsmeriaid. Cyfeiriwn at hyn fel ein gwaith y dyfodol ac rydym wedi dynodi pedair prif agwedd i’w datblygu. Y pedair agwedd hyn i'w datblygu, a ddynodir yn wyrdd ar y model, yw: ‘Datblygiad Gwasanaeth Cwsmeriaid, ‘Cofrestru Tir’, ‘Cyflenwi Gwasanaethau Electronig’ a ‘Datblygiad Busnes Arall’.

    Fel rhan o’n trefnau atebolrwydd a llywodraethu corfforaethol, rydym wedi cytuno nifer o amcanion strategol gyda’n Gweinidogion i sicrhau ein bod yn llwyddo i wella pob un  o’r meysydd i’w datblygu. Gall yr amcanion strategol hyn amrywio o ran eu cyfnod a’u cwmpas a gallwch ddarllen am ein cynnydd ers 2001 nes ymlaen yn y cynllun hwn.

    Ar hyn o bryd mae gennym chwe amcan strategol i'w cwblhau, sef:

    Datblygiad Gwasanaeth Cwsmeriaid

    1. Parhau i wella'r ffordd rydym yn cyflenwi'n gwasanaethau i'r holl fudd-ddeiliaid

    Cofrestru Tir

    2. Cyflenwi deddfwriaeth eilaidd amserol ac effeithiol mewn perthynas â chofrestru tir
    3. Creu cofrestr tir gynhwysfawr ar gyfer Cymru a Lloegr

    Cyflwyno Gwasanaethau Electronig

    4. Cyflwyno system drawsgludo electronig a fydd yn gyfrwng cyflawni'r rhan fwyaf o drafodion eiddo
    5. Sicrhau bod yr holl ddata cofrestru tir ar gael yn electronig i bawb

    Datblygiad Busnes Arall

    6. Datblygu amrywiaeth ehangach o wasanaethau ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes eiddo, y cyhoedd ac eraill

    Byddwn yn cyflawni amcanion strategol 1 a 2 trwy gydol cyfnod 10 mlynedd y cynllun hwn trwy wella’n gwasanaethau’n rheolaidd a sicrhau bod ein deddfwriaeth yn gyson ac yn bodloni anghenion ein budd-ddeiliaid. Byddwn yn cyflawni amcanion strategol 3, 4, 5 a 6 yn raddol dros y cyfnod.