www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Strategaeth

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Cynllun 10 mlynedd Cyflwyniad Contents Previous Next

    Cyflwyniad - Pwy yw'r Gofrestrfa Tir?

    Y Gofrestrfa Tir a sefydlwyd ym 1862, yw'r adran o'r llwyodraeth sy'n gyfrifol am gynnal a chadw Cofrestr Tir Cymru a Lloegr. Ein prif bwrpas yw cofrestru teitl i dir a chofnodi deliadau â'r tir ar ôl iddo gael ei gofrestru.

    Rydym yn gweithredu trwy 24 swyddfa a leolir ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Yn ogystal, mae gennym Brif Swyddfa yn Llunain a'n Swyddfa Systemau Gwybodaeth yn Plymouth. Mae'r Adran Pridiannau Tir a'r Adran Credydau Amaethyddol yn rhan o'n sefydliad hefyd.

    Ym 1990 penodwyd y Gofrestrfa Tir fel Asiantaeth Weithredol gyntaf yr Arglwydd Ganghellor a rhoddwyd statws Cronfa Fasnachu i ni ym 1993. Mae'n deddfwriaeth yn gofyn i ni fod yn hunan-ariannol ac, o dan amgylchiadau gweithredu arferol, nid ydym yn dibynnu ar y trethdalwr. Gallwch weld gwybodaeth bellach am ein fframwaith gweithredu yn ein Dogfen Fframwaith a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2003.


    Mae anghenion cwsmeriaid wedi bod wrth wraidd ein strategaeth busnes erioed. Er ein bod yn cydnabod nad oes gan ein cwsmeriaid unrhyw ddewis ynghylch defnyddio'n gwasanaethau ai peidio, rydym yn eu trin bob amser fel petai'r dewis hwnnw ganddynt. Mae cyflenwi gwasanaethau cofrestru tir cyflym a chywir am bris rhesymol yn hollbwysig wrth gynllunio'n datblygiadau busnes ar gyfer y dyfodol.

    Rydym yn falch o lwyddiannau'n rhagflaenwyr yn ystod 142 blwyddyn o gofrestru tir. Gyda’r gronfa ddata eiddo fwyaf yn y byd  mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy warantu perchnogaeth eiddo sy’n werth tua £2.5 triliwn.