Datganiad hygyrchedd

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cynnwys a gwasanaethau'r we sy'n hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf posibl ac rydym yn gweithio'n ymarferol i gynyddu hygyrchedd a defnyddioldeb ein gwefan. Y cam cyntaf i wneud hyn yw cydymffurfio â safonau a chyfarwyddiadau penodol (fel y nodir isod).

Yn fwy cyffredinol, mae gwefan y BBC yn darparu ystod ragorol o gyngor hygyrchedd a defnyddioldeb. Mae'r wefan hon yn helpu pobl, waeth beth yw eu gallu, i fanteisio ar y rhyngrwyd ac i osod cyfrifiadur fel ei fod yn haws i'w ddefnyddio.

www.bbc.co.uk/accessibility

Safonau

Lluniwyd y wefan i gydymffurfio â blaenoriaeth AA Menter Hygyrchedd y We (WAI) Consortiwm y We Fyd Eang (World Wide Web Consortium neu W3C) – gan ddefnyddio côd sy'n cydymffurfio â safonau W3C ar gyfer XHTML a CSS er mwyn sicrhau y gellir arddangos y wefan ym mhob porwr a gefnogir (gweler ein polisi porwyr rhyngrwyd). Mae defnyddio côd sy'n cydymffurfio â safonau yn golygu y dylid arddangos y wefan hon yn gywir mewn fersiynau diweddarach o'r porwyr a gefnogir hefyd.

Darllenadwyedd

Rydym wedi ceisio defnyddio 'Cymraeg clir' cymaint â phosibl ar y wefan, ond mae rhywfaint o'r cynnwys o natur dechnegol a/neu gyfreithiol a rhaid ei ysgrifennu ychwaith. Rydym wedi sicrhau nad yw dyluniad y wefan hon yn rhwystr i'w defnyddioldeb na'i darllenadwyedd hefyd.

Bysellau Mynediad

Mae bysellau mynediad yn ddyfais llywio sy'n eich galluogi i lywio'r prif wefan gan ddefnyddio eich bysellfwrdd. Gellir eu defnyddio i neidio i wahanol adrannau cynnwys trwy'r prif wefan.

Ceir rhagor o wybodaeth fanwl am fysellau mynediad yng Nghyfarwyddiadau Hygyrchedd W3C.

Bysellau Mynediad sydd ar gael

S – neidio i'r cynnwys/osgoi'r gwe-lywio
1 – Hafan
3 – Map o'r wefan
4 – Cyfleuster chwilio
5 – Cwestiynau a ofynnir yn aml
9 – Cysylltu â ni

Firefox 2+

Yn Windows a Linux: gwasgwch y bysellau ALT a SHIFT yn ogystal â rhif y fysell mynediad.

Ar Mac: gwasgwch y fysell CTR a rhif y fysell mynediad.

Internet Explorer 6 a 7

Yn Windows: gwasgwch y fysell ALT a rhif y fysell mynediad, yna gwasgwch ENTER.

Internet Explorer 8+

Yn Windows: gwasgwch y fysell ALT a rhif y fysell mynediad.

Safari 3

Yn Windows: gwasgwch y fysell ALT a rhif y fysell mynediad.

Ar Mac: gwasgwch y bysellau CTR a OPT a rhif y fysell mynediad.

Safari 4+

Yn Windows: gwasgwch y fysell ALT a rhif y fysell mynediad.

Ar Mac: gwasgwch y fysell CTR a rhif y fysell mynediad.

Eithriadau

Mae'r ymrwymiad hwn yn berthnasol i wefannau'r Gofrestrfa Tir yn unig ac nid i wefannau y ceir cysylltau iddynt o'n tudalennau.

Er ein bod yn gweithio'n galed i gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a'r safonau derbyniol o ran hygyrchedd, nid yw bob amser yn bosibl gwneud hynny.

Efallai bydd y rhannau canlynol o'n gwefan yn peri rhwystrau i rai defnyddwyr eu defnyddio.

Aerial Land Locator

Oherwydd ei defnydd o fapiau, mae'n ofynnol defnyddio JavaScript a CSS gyda'r Aerial Land Locator er mwyn iddynt ufuddhau'n llwyr â blaenoriaeth AA WCAG.

PDF

Mae'r wefan hon yn defnyddio Ffeiliau Dogfen Cludadwy (PDF). Nid yw rhai o'r dogfennau PDF a grëwyd gan ddefnyddio cymwysiadau eFusnes y Gofrestrfa Tir a rhai dogfennau hŷn yn gwbl hygyrch eto.

JavaScript

Defnyddir JavaScript trwy'r wefan er mwyn cynorthwyo gyda'r llywio, casglu ystadegau ac at ddibenion arddull amrywiol eraill. Cymerwyd gofal i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n llawn i bobl sy'n dewis peidio â galluogi JavaScript yn eu porwr i'r we.

Flash

Mae modiwlau hyfforddiant ar gael ar ffurf Flash gan Adobe. Gall Flash achosi rhai problemau i rai pobl.

Ffurfiau eraill

Os oes angen mynediad i unrhyw wybodaeth neu wasanaethau ar y wefan hon ar ffurf wahanol, gallwch gysylltu â'n Cefnogaeth i Gwsmeriaid dros y ffôn ar 0844 892 1122 neu ebostio customersupport@landregistry.gsi.gov.uk. Gall defnyddwyr ffonau testun a Minicom gysylltu â ni gan ddefnyddio'r gwasanaeth trosglwyddo testun drwy ychwanegu 18001 o flaen y rhif 0844 892 1122

Cysylltu â ni

Rydym yn croesawu adborth am hygyrchedd a defnyddioldeb ein gwefan.  Rydym yn gweithio'n barhaus i sicrhau bod pob adran o'r wefan yn cyrraedd yr un lefel o hygyrchedd cyffredinol. Os cewch unrhyw anhawster wrth gael mynediad i gynnwys ar y wefan hon, cysylltwch â ni yn ecomms@landregistry.gov.uk

Rhagor o gymorth

Adobe

Mae Adobe yn darparu teclyn trosi PDF sy'n trosi ffeiliau PDF i ffurfiau mwy hygyrch. Ceir rhagor o declynnau, cymorth a gwybodaeth bellach yn www.adobe.com/accessibility/index.html

Cyngor gan y prif gynhyrchwyr

Microsoft (Windows)
Os byddwch yn defnyddio cyfrifiadur personol / ffôn clyfar / Tabled gyda Windows - www.microsoft.com/enable/products

Apple

Os byddwch yn defnyddio Apple Mac / iPhone / iPad - www.apple.com/accessibility/

Linux
Os byddwch yn defnyddio cyfrifiadur personol gyda Linux - http://ictknowledgebase.org.uk/linuxaccessibility

Android

Os byddwch yn defnyddio ffôn clyfar neu dabled sy'n defnyddio'r system gweithredu Android, gallwch gael gwybodaeth hygyrchedd ar wefan cynhyrchydd eich dyfais.