Ymwadiad/Atebolrwydd
Darperir y wybodaeth "fel ag y mae". Ni fyddwn ni nac unrhyw drydydd parti yn atebol ichi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw golled neu ddifrod boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol sy'n digwydd o ganlyniad i (i) unrhyw anghywirdeb neu anghyflawnder o ran y data neu unrhyw wybodaeth arall a ddarperir ichi trwy'r wefan hon neu unrhyw oedi, ymyriadau, camgymeriadau neu ddiffyg o ran eu cyflenwi; (ii) unrhyw benderfyniad neu weithred o'ch eiddo chi neu unrhyw drydydd parti sy'n deillio o ddibynnu ar y data. Ni fyddwn ni nac unrhyw drydydd parti yn atebol am golled o ran adnoddau busnes, o ran elw neu am unrhyw iawndal cosbedigol anuniongyrchol, canlyniadol, arbennig neu gyffelyb o gwbl, boed o ran cytundeb, tort neu dan unrhyw amgylchiadau eraill, hyd yn oed os cawn ein hysbysu o'r posibilrwydd eich bod chi neu drydydd parti wedi dioddef colled o'r fath.
Gall ffactorau sy'n amhosibl eu rhagweld ac sydd tu hwnt i'n rheolaeth ni oedi trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd. Gall hyn ein rhwystro rhag darparu ein gwasanaethau a chyflawni eich archebion. Rydych yn cydnabod na fyddwn ni nac unrhyw ddarparwr gwasanaeth gwybodaeth na thrydydd parti yn atebol ichi neu i unrhyw drydydd parti am unrhyw golledion o ganlyniad i unrhyw oedi o'r fath.
Ni fyddwn ar unrhyw gyfrif yn atebol am unrhyw golled canlyniadol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i iawndal arbennig damweiniol, uniongyrchol neu anuniongyrchol sy'n digwydd o ganlyniad i oedi neu golli'r gallu i ddefnyddio ein gwasanaethau rhyngrwyd. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i'ch cyfrifiadur, meddalwedd, modem, ffôn neu eiddo arall sy'n digwydd o ganlyniad i'ch defnydd o'n gwasanaethau.
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw un o'r gwefannau sy'n gysylltiedig â'r wefan hon ac nid ydym o angenrheidrwydd yn cymeradwyo'r farn a fynegir ynddynt. Ni allwn warantu y bydd y cysylltau hyn yn gweithio trwy'r amser ac ni allwn reoli a fydd y tudalennau cysylltiedig ar gael ai peidio.