www.landregistry.gov.uk
www.landregistry.gov.uk

Telerau ac amodau

COA | Cysylltu â ni | Map o'r wefan
English | Cymraeg
Prisiau tai
E-drawsgludo
Gwasanaethau Add Value
E-wasanaethau busnes
Chwilio am eiddo
E-lofnod morgais
Cofrestru eich tir
Addysg a hyfforddiant
Ymarfer
Gwybodaeth am eiddo
Eich hawliau gwybodaeth
Siarter Gwybodaeth
Amdanom ni
Cynlluniau Cyhoeddiadau
Telerau ac amodau

© Hawlfraint y Goron 2010

Datganiad Preifatrwydd

Mae'r Gofrestrfa Tir wedi llunio'r datganiad preifatrwydd hwn er mwyn dangos ein hymrwymiad cadarn i gadw'r wybodaeth bersonol a gasglwn ar ein gwefan yn ddiogel a chyfrinachol. Diben y Datganiad Preifatrwydd Ar-lein hwn yw eich hysbysu am y gwahanol fathau o wybodaeth amdanoch chi rydym yn eu casglu ar-lein wrth ichi ymweld â'n gwefan, sut y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth honno, a ydym yn ei datgelu i un rhywun a'r dewision sydd gennych ynglŷn â'n defnydd o'r wybodaeth honno a'ch gallu chi i'w chywiro.

Gall y datganiad hwn newid o bryd i'w gilydd, felly dylech ei ail-ddarllen yn achlysurol.

Mae'r datganiad hwn yn cwmpasu'r canlynol:

  1. Gwefannau y mae'r Datganiad hwn yn berthnasol iddynt
  2. Y wybodaeth rydym yn ei chasglu
  3. Pam rydym yn gasglu'ch gwybodaeth
  4. Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth
  5. Eich dewision
  6. Cael mynediad i'ch gwybodaeth a'i newid
  7. Dewis/eithrio
  8. Defnyddio cwcis ar y wefan hon
  9. Diogelu'ch gwybodaeth
  10. Diogelwch
  11. Cysylltau i wefannau eraill
  12. Newidiadau i'r datganiad hwn
  13. Cysylltu â ni

1. Gwefannau y mae'r Datganiad hwn yn berthnasol iddynt

Mae'r Datganiad Preifatrwydd hwn yn berthnasol i gasglu a defnyddio data ar holl wefannau'r Gofrestrfa Tir ac eithrio'r Gofrestr Tir Ar-lein a'r Gofrestrfa Tir Uniongyrchol sydd â'u datganiadau preifat eu hun.

Mae rhai tudalennau ar ein gwefannau yn cynnwys cysylltau i wefannau trydydd partïon er hwylustod ymwelwyr. Mae gwefannau trydydd partïon y tu allan i'n rheolaeth ac nid yw'r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol iddynt.

2. Pa wybodaeth a gasglwn

Yn gyffredinol, gellir rhannu'r wybodaeth yn ddau gategori: Gwybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn a Gwybodaeth nad yw'n Datgelu'r Unigolyn.

Gwybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn: Mae'r wybodeth hon yn datgelu ffeithiau penodol amdanoch chi i ni. Gall gynnwys eich enw, cyfeiriad post, rhif ffôn, cyfeiriad ebost, eich cyflogwr a theitl eich swydd, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain. Byddwn yn gofyn am Wybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn pan fyddwch yn archebu cynnyrch neu wasanaeth, cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau hyrwyddol, llenwi holiaduron a gohebu â ni. Byddwn hefyd yn gofyn am Wybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn pan fyddwch yn gofyn i ni anfon nwyddau neu wybodaeth yn uniongyrchol at bobl eraill; dan yr amgylchiadau hyn byddwn yn casglu'r wybodaeth a gyflwynir gennych am y derbynnydd. Pan fyddwch yn gofyn i ni anfon nwyddau neu wybodaeth yn uniongyrchol at bobl eraill, rhaid i chi gadarnhau bod y derbynnydd wedi eich benodi i weithredu ar ran y derbynnydd a'i fod wedi cytuno i chi ddarparu gwybodaeth bersonol y derbynnydd i ni a'n bod yn ei phrosesu yn unol â'r datganid preifatrwydd hwn. Bydd yn amlwg ichi pan fyddwch ar ran o'n gwefan lle mae angen ichi roi gwybodaeth bersonol achos byddwn yn gofyn amdani.

Gwybodaeth nad yw'n Datgelu'r Unigolyn: Nid yw'n bosibl adnabod unigolyn penodol trwy'r wybodaeth hon ar ei phen ei hun. Gall y wybodaeth a gasglwn pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan gynnwys  y canlynol: "URL" (Uniform Resource Locator) y wefan yr oeddech yn ymweld â hi cyn dod i'n gwefan ni, pa dudalennau rydych yn ymweld â nhw ar ein gwefan, pa wefan y byddwch yn mynd iddi nesaf, pa borwr a ddefnyddiwyd gennych i ddod i'n gwefan, eich cyfeiriad "IP" (Internet Protocol)ac unrhyw eitemau rydych wedi chwilio amdanynt ar ein gwefan. Mae'r Datganiad hwn yn cynnwys hefyd mwy o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnoleg arall i gasglu'r data hyn.

3.  Pam rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch

Ein prif amcanion wrth gasglu gwybodaeth yw darparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a sicrhau bod pob ymwelwr yn cael profiad didrafferth, effeithlon a phersonol wrth ddefnyddio'n gwefan. Gall ffurflenni ar ein gwefan wahodd defnyddwyr i roi gwybodaeth cysylltu i ni (gan gynnwys eu hen a'u cyfeiriad ebost). Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i gysylltu â'r ymwelydd pan fo angen. Er enghraifft, os byddwch yn gofyn am wybodaeth ar ein gwefan, byddwn yn defnyddio'r Wybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn i gyflenwi'ch archeb neu i ddarparu'r wybodaeth mae ei hangen arnoch. Byddwn yn edrych ar y Wybodaeth nad yw'n Datgelu'r Unigolyn yn ei chrynswth er mwyn dadansoddi arferion ein cwsmeriaid. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut mae ymwelwyr yn defnyddio'n gwefan ac i fesur faint o ddiddordeb sydd yn y gwahanol dudalennau. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i wella cynnwys ein gwefan ac i'w gwneud yn haws ei defnyddio

Mae'n gwefan yn defnyddio ffurflenni i gwsmeriaid ofyn am wybodaeth, nwyddau a gwasanaethau ac i roi adbort. Gallwn gasglu gwybodaeth cysylltu ymwelwydd (er enghraifft eu cyfeiriad ebost) a gwybodaeth ariannol (fel rhifau eu cyfrif banc neu gerdyn credyd). Defnyddir gwybodaeth cysylltu o'r ffurflen i anfon archebion at ein cwsmeriaid. Gallwn ddefnyddio gwybodaeth cysylltu'r cwsmer i gysylltu â'r cwsmer pan fo angen. Gall cwsmeriaid ddewis peidio â derbyn gwybodaeth yn y dyfodol; gweler yr adran dewis/hepgor isod. Defnyddir gwybodaeth ariannol pan fo'n briodol i anfonebu'r cwmser am nwyddau a gwasanaethau. Cesglir dynodwyr unigrwy (fel cyfeiriadau ebost) o'r wefan i wirio hunaniaeth y cwsmer ac i'w defnyddio fel rhifau cyfrif yn ein cofnodion.

Gall ein harolygon ar-lein ofyn i gwsmeriaid am wybodaeth cysylltu (fel eu cyfeiriad ebost). Defnyddir gwybodaeth cysylltu'r cwsmer i gysylltu â'r cwsmer pan fo angen. Gall ddefnyddwir ddewis peidio â derbyn gwybodaeth yn y dyfodol; gweler yr adran dewis/hepgor isod.

4.  Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

Rydym yn casglu gwybodaeth ac yn ei defnyddio mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys y canlynol:

Holiaduron ac arolygon ar-lein: Rydym yn casglu Gwybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn oddi wrth gwsmeriaid sy'n gwirfoddoli i lenwi holiaduron neu gymryd rhan mewn arolygon. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i wella'n cynnyrch a'n gwasanaethau. Cesglir y wybodaeth hon naill ai gan y Gofrestrfa Tir yn uniongyrchol neu gan drydydd parti dan gytundeb.

Cylchlythyron ac ebyst hyrwyddol: Byddwn yn casglu Gwybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn pan fyddwch yn gofyn am dderbyn cylchlythyron, ebyst hyrwyddol a gwybodaeth arall. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddarparu'r wybodaeth rydych yn gofyn amdani.

Gwybodaeth cysylltu: Os ydych yn cysylltu â ni, gallwn gadw cofnod o'ch gohebiaeth neu sylwadau, gan gynnwys Gwybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn, mewn ffeil sy'n unigryw ichi. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddarparu gwell gwasanaeth ichi os byddwch yn cysylltu â ni eto.

Ni fyddwn yn gwerthu, masnachu na rhentu i eraill y wybodaeth sy'n datgelu'r unigolyn a gasglwn.

5. Eich dewision

Ni fydd y Gofrestrfa Tir yn defnyddio neu yn rhannu'r Wybodaeth sy'n Datgelu'r Unigolyn a gasglwn ar ein gwefan mewn modd nad yw'n gysylltiedig â'r diben y rhoddwyd y wybodaeth ar ei gyfer, heb gynnig ichi'r dewis i roi eich caniatâd i'r fath ddefnydd ai peidio.

6.  Cael mynediad i'ch gwybodaeth a'i newid

Mae'r Gofrestrfa Tir yn awyddus i sicrhau bod gennym gofnod cywir a chyflawn o'ch gwybodaeth a'ch dewision. Os hoffech weld neu newid eich gwybodaeth, gallwch wneud hyn ar-lein lle bo'n bosibl neu, fel arall, rhowch wybod i ni trwy anfon ebost gyda'ch enw, cyfeiriad post llawn, cyfeiriad ebost, a gwybodaeth berthnasol am danysgrifiadau a chofrestriadau sydd gennych gyda'r Gofrestrfa Tir, at: privacy@landregistry.gov.uk a byddwn yn gwneud popeth o fewn rheswm i gwrdd â'ch cais.

7.  Dewis/eithrio

Mae'n gwefannau yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddewis peidio â derbyn cysylltiadau oddi wrthym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth am yr ymwelydd.

Os nad ydych yn eithrio'ch hun wrth ddarparu gywbodaeth i ni ond, os ydych yn penderfynu maes o law eich bod am eithrio'ch hun, gallwch ofyn i ni ddileu'ch gwybodaeth o'n cronfeydd data mewn un o'r ffyrdd canlynol ac ni fyddwn yn cysylltu â chi eto.

  • Gallwch anfon ebost at privacy@landregistry.gov.uk
  • Gallwch ysgrifennu i'r cyfeiriad : FREEPOST RRYZ-RRSZ-UXKR, Tîm Data'r Gofrestrfa Tir, Cofrestrfa Tir, Lincoln's Inn Fields, Holborn, Llundain WC2A 3PH

8.  Defnyddio cwcis ar y wefan hon

Mae'n rhaid i chi alluogi cwcis i ddefnyddio rhai o'n gwasanaethau fel y Gofrestrfa Tir Uniongyrchol neu'r Gofrestr Tir Ar-lein.

"Cwci" yw ffeil fach o ddata mae eich porwr gwe yn ei chreu a chadw ar yriant caled eich cyfrifiadur. Rydym yn defnyddio cwcis pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, yn ymateb i holiaduron neu arolygon ar-lein neu yn gofyn am wybodaeth. Nid yw derbyn y cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan yn ein galluogi i gael mynediad i'ch wybodaeth sy'n datgelu'r unigolyn a dylai'ch porwr ganiatáu ein gwefan ni yn unig (a dim un arall) i gael mynediad i'r wybodaeth mewn unrhyw cwci a osodir gennym. Mae'r wybodaeth a gasglwn yn ein galluogi i ddadansoddi patrymau defnyddio ein gwefan. Yn y pendraw byddwn yn gallu darparu gwell profiad ar ein gwefan trwy wella'r cynnwys a'i gwneud yn haws ei defnyddio.

Mae'r rhan fwyaf o borwyr yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel rheol gallwch wrthod cwcis neu ddewis derbyn cwcis penodol yn unig, trwy addasu'r dewisiadau n eich porwr. Os ydych yn dewis gwrthod cwcis, mae'n bosibl na fydd rhai o'r nodweddion ar yn gwefan ar gael i chi ac efallai na fydd rhai tudalennau gwe yn ymddangos yn iawn. Mae rhai o'n systemau yn gofyn am allugoi cwcis

9.  Diogelu'ch gwybodaeth

Mae'r Gofrestrfa Tir yn cydnabod eich bod yn ymddiried ynom ac rydym yn ymrwymo i warchod y wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni. Er mwyn atal mynediad heb awdurdod, cynnal cywirdeb a sicrhau defnydd priodol o'r wybodaeth, rydym yn defnyddio dulliau ffisegol, electronig a gweinyddol i warchod a diogelu'r wybodaeth a gasglwn ar-lein.

10.  Diogelwch

Mae gan ein gwefan fesurau diogelwch i warchod yn erbyn colled, camddefnydd a newid y wybodaeth dan ein rheolaeth. Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gronfa ddata ddiogel sy'n cynnwys data personol. Lleolir y gronfa ddata ar wahân i'r prif weinydd ac nid oes modd  cael mynediad iddi'n uniongyrchol.

Er y byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i warchod eich data personol, rydych yn cydnabod nad yw defnyddio'r rhyngrwyd yn hollol ddiogel, ac am y rheswm hwn, ni allwn warantu diogelwch na chywirdeb unrhyw ddata personol sy'n cael eu trosglwyddo oddi wrthych neu i chi dros y rhyngrwyd.

11.  Cysylltau i wefannau eraill

Mae rhannau o'n gwefan yn cynnwys cysylltau i wefannau trydydd partïon er eich hwylustod a gwybodaeth. Trwy ddefnyddio'r cysylltau hyn byddwch yn gadael gwefan y Gofrestrfa Tir. Pan fyddwch yn ymweld â gwefan nad yw'n perthyn i'r Gofrestrfa Tir, hyd yn oed un sy'n arddangos logo y Gofrestrfa Tir, cofiwch nad ydym yn rheoli cynnwys y wefan honno ac nad ydym yn gyfrifol am ei threfnau preifatrwydd. Nid ydym yn gyrifol am gwynnwys neu ddibyniadwyaeth unrhyw wefannau cysylltiedig ac nid ydym o angenrheidrwydd yn cytuno â'r farn a fynegir ynddynt. Ni allwn warantu y bydd y cysylltau hyn yn gweithio yn gyson ac ni allwn warantu y bydd y tudalennau cysylltiedig ar gael. Awgrymwn eich bod yn darllen yn ofalus polisïau preifatrwydd pob gwefan y byddwch ym ymweld â hi. Nid yw'r Datganiad Preifatwydd hwn yn berthnasol i arferion gwybodaeth y gwefannau trydydd parti sy'n gysylltiedig â'n gwefannau ni. Gall gwefannau trydydd parti anfon eu cwcis eu hun i ddefnyddiwyr a gallant gasglu neu ofyn am wybodaeth bersonol.

12.  Newidiadau i'r datganiad hwn

Os bydd telerau'r Datganiad Preifatrwydd Ar-lein hwn yn newid neu os ychwanegir atynt, byddwn yn cyhoeddi'r newidiadau hynny yma. Felly, byddwch bob amser yn gwybod pa wybodaeth rydym yn ei chasglu ar-lein, sut rydym yn ei defnyddio a pha ddewision sydd gennych. Cofiwch edrych ar y dudalen hon cyn mynd ymlaen i ddefnyddio'n gwefan.

13. Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â'r defnydd a wna'r Gofrestrfa Tir o'ch gwybodaeth, am y Datganiad Preifatrwydd hwn neu am unrhyw agwedd ar eich defnydd o'r wefan hon, anfonwch ebost at privacy@landregistry.gov.uk