Rhaglen hyfforddiant cwsmeriaid

Mae'r Gofrestrfa Tir yn darparu hyfforddiant ymarferiad a threfniadaeth cofrestru tir i ymarferyddion ar bob lefel.

Nid oes neb gwell na'n harbenigwyr i'ch helpu i wella eich gwybodaeth am ddefnyddio gweithdrefn trawsgludo cofrestredig.

P'un a ydych wedi gweithio gyda ni ers nifer o flynyddoedd neu'n gwbl newydd i drawsgludo, beth am weld sut y gallwn eich helpu a chael eich achredu gydag oriau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar yr un pryd o dan gynlluniau SRAILEX a Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig?

Dewisiadau hyfforddi

Yn 2011/12, rydym yn cynnig pynciau fel seminarau mewnol, seminarau agored a gwe-seminarau.

Seminarau mewnol

Caiff yr hyfforddiant ei gynllunio'n bwrpasol i ddiwallu eich anghenion dysgu chi a'ch cwmni. Mae pob un o'n seminarau ar gael i'w chyflwyno gan un o'n harbenigwyr ar eich safle fel y gallwch ddysgu gyda'ch cydweithwyr a gofyn unrhyw gwestiynau'n hamddenol tra'n ennill oriau DPP achrededig, lle y bo'n briodol.

Modiwlau ar-lein

Rydym yn cynnig modiwlau sy'n hyblyg y gellir eu cwblhau mewn sesiwn unigol neu wedi'u rhannu dros nifer o sesiynau.

Maent ar gael drwy ryngwyneb y we gan eich galluogi i gael gafael arnynt ar unrhyw adeg a lle bynnag sy'n gyfleus i chi.

Pwnc

Oriau DPP achrededig

Dysgu sut i gyflwyno ceisiadau effeithiol ar ran eich cleient

3

Sut i ddelio â phrydlesi yn y system gofrestru

2

Dysgu sut i gofrestru a throsglwyddo o dan bŵer gwerthu a deall beth sy'n digwydd i gofnodion cofrestr presennol

2

Deall pwysigrwydd defnyddio cynlluniau da wrth gofrestru tir

2

Dysgu sut i warchod hawddfreintiau eich cleientiaid yn effeithiol ar y gofrestr

2

Dysgu sut i fanteisio ar gyfyngiadau a rhybuddion - eiddo preswyl

2

Deall arwyddocâd ystadau cyfreithiol a buddion ecwitïol ym maes trawsgludo

2

Gwarchod buddion eiddo eich cleientiaid pan fydd cydberthynas yn dirywio

2

Materion cleient preifat a'r Gofrestrfa Tir

2

Oes diddordeb gennych? Rhowch gynnig ar ein modiwl sampl am Hawddfreintiau.

Noder: Bydd angen yr ategyn am ddim Adobe Flash Player i weld y modiwl.

Cost

Mae seminarau mewnol yn amrywio o £500-£1,400, yn dibynnu ar y pynciau a'r hyd. (Gall hyd at 30 o gynadleddwyr fynd i bob seminar.)

Codir cyfradd safonol o £20 fesul awr achrededig DPP ar gyfer pob modiwl ar-lein. Y gost ar gyfer dau bwnc awr o hyd fydd £40, codir tâl o £60 am dri phwnc awr o hyd.

*Mae amodau archebu yn berthnasol.

Noder: Nid yw TAW yn daladwy ar yr hyfforddiant uchod.

Archebion

Gweler ein E-lyfryn (ar gyfer disgrifiadau pwnc ac oriau DPP), ein COA ar gyfer modiwlau ar-lein a gwe-seminarau a'r dudalen Gwneud archeb (ar gyfer manylion archebu).

Talu

Gallwch dalu drwy ddefnyddio:

  • BACS, siec neu gerdyn credyd/debyd ar gyfer seminarau agored neu mewnol
  • Cerdyd credyd/debyd ar gyfer modiwlau ar-lein a gwe-seminarau

Noder: Caiff taliadau eu prosesu gan ein tîm Cyflawniad Datblygu Busnes, ffôn - 0800  678 1678.  Maent ar agor rhwng 9 am a 5 pm (dydd Llun i ddydd Gwener).