Cyflwyniad

Croeso i lyfryn hyfforddiant y Gofrestrfa Tir. 

Cofrestru yw ein busnes yn y Gofrestrfa Tir. Felly gadewch i ni eich helpu i ddod o hyd i'r ffyrdd gorau o ddatblygu eich sgiliau a rhoi mantais i'ch busnes. 

Mae'r Gofrestrfa Tir yn ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth am ymarfer a gweithdrefnau cofrestru tir. Rydym yn cymryd rhan ganolog yn y datblygiadau diweddaraf o ran deddfwriaeth sy'n effeithio ar drawsgludo cofrestredig. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth heb ei ail i ni o'r gweithdrefnau a'r prosesau rydych yn eu defnyddio wrth gofrestru tir.

I archebu lle, ffoniwch 0800 678 1678 i siarad ag un o'n cynrychiolwyr gwasanaethau masnachol neu ewch i'r dudalen Archebu lle.