Dysgu sut i gofrestru trosglwyddiad o dan bwer gwerthu a deall yr hyn sy'n digwydd i gofnodion presennol ar y gofrestr

Manteisiwch ar y cyfle i ennill gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd i gofnodion presennol y gofrestr mewn perthynas ag arwystlon, rhybuddiadau, cyfyngiadau a rhybuddion pan wneir cais i drosglwyddo o dan bwer gwerthu.
Erbyn diwedd y seminar hwn byddwch yn gallu:

  • deall pa amgylchiadau sydd eu hangen i wneud cais i drosglwyddo o dan bwer gwerthu
  • gwerthfawrogi ystyriaethau'r Gofrestrfa Tir wrth gofrestru'r trosglwyddiad
  • pennu sut y mae blaenoriaeth cofnod y gofrestr yn effeithio ar eich cais
  • gwella eich gwybodaeth o effaith cofnodion eraill y gofrestr, fel arwystlon, rhybuddiadau, cyfyngiadau a rhybuddion.

Ar gael fel seminar mewnol yn unig.

Cynulleidfa awgrymedig:Sefydliadau ariannol, trawsgludwyr a staff cymorth sy'n gystylliedig â gweinyddu ôl-ddyledion ac ailfeddiant o dan arwystlon cofrestredig.
Lefel: Cyflwyniad/Canolradd
DPP: Awr 30 munud

I archebu lle, ffoniwch 0800 678 1678 i siarad ag un o'n cynrychiolwyr gwasanaethau masnachol neu ewch i'r dudalen Archebu lle.