Dewisiadau Hyfforddi
Mewnol
Hyfforddiant penodol, ym mhob pwnc ar y rhaglen, wedi'i addasu at eich anghenion dysgu chi a'ch cwmni. Cyflwynir yr hyfforddiant gan un o'n harbenigwyr ar eich safle chi fel y gallwch ddysgu ochr yn ochr â'ch cydweithwyr a gofyn unrhyw gwestiynau'n hamddenol tra'n ennill oriau achrededig DPP, os yw'n berthnasol.
Seminarau agored
Mae seminarau agored ar gael mewn amrywiaeth o bynciau ac maent yn eich galluogi i ddysgu ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill mewn arddull darlith. Gyda'r dull hwn byddwch yn dysgu gan un o'n staff profiadol ac mae'n gyfle i holi un o'n harbenigwyr yn uniongyrchol. Byddwch yn delio â rhywun sy'n trin ceisiadau cofrestru tir bob dydd yn ogystal ag ennill oriau achrededig DPP, os yw'n berthnasol.
Modiwlau ar-lein
Er mwyn diwallu anghenion ein cwsmeriaid, rydym wedi rhoi cynnwys ein seminarau wyneb yn wyneb mwyaf poblogaidd ar-lein. Mae pob modiwl yn hyblyg fel y gellir ei gwblhau mewn sesiwn unigol neu ei rannu dros nifer o sesiynau i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau eraill. Mae'r modiwlau hyn ar gael drwy ein gwefan, gan eich galluogi i gael gafael arnynt ar unrhyw adeg ac mewn lleoliad sy'n gyfleus i chi.
Ymhlith y manteision o ddewis modiwlau ar-lein mae'r canlynol:
- Maent ar gael ar adeg a lleoliad sy'n gyfleus i chi
- Gallwch arbed amser a chostau teithio
- Gallwch ddysgu ar eich cyflymdra eich hun - gallwch gwblhau'r modiwl mewn un sesiwn neu rannu eich dysgu dros nifer o sesiynau llai
- Gallwch ennill oriau achrededig DPP
- Mae testun y modiwl ar gael i'w argraffu a'i ddarllen oddi ar-lein, os yw hynny'n well gennych
- Caiff eich dysgu ei asesu, sy'n rhoi adborth i chi a chofnod o'ch cyflawniad.
I ganfod pa bynciau fydd ar gael fel modiwlau ar-lein, gweler y tabl isod.
Mae modiwl enghreifftiol ar gael yma.
(Noder: Mae angen ategyn Macromedia Flash i weld y modiwl hwn.)
| Pwnc | Lefel | Seminarau mewnol | Modiwlau Ar-lein |
| Pynciau DPP achrededig | |||
| Deall pwysigrwydd defnyddio cynlluniau da wrth gofrestru tir (Awr 45 munud) | Cyflwyniad/Canolradd | X | |
| Dysgu sut i warchod hawddfreintiau eich cleientiaid yn effeithiol ar y gofrestr (Awr 15 munud) | Canolradd | X | |
| Dysgu sut i warchod hawddfreintiau eich cleientiaid yn effeithiol ar y gofrestr (2 awr) | Canolradd/uwch | X | |
| Dysgu sut i wneud y gorau o gyfyngiadau a rhybuddion - eiddo preswyl (Awr 30 munud) | Canolradd/uwch | X | |
| Dysgu sut i wneud y gorau o gyfyngiadau a rhybuddion - eiddo preswyl (2 awr) | Canolradd/uwch | X | |
| Dysgu sut i wneud y gorau o gyfyngiadau a rhybuddion - eiddo masnachol (Awr 30 munud) | Canolradd | X | |
| Deall arwyddocâd ystadau cyfreithiol a buddion cyfreithiol ac ecwitïol ym maes trawsgludo (2 awr) | Canolradd/uwch | X | X |
| Sut i ymdrin â phrydlesi yn y system gofrestru (Awr 30 munud) | Canolradd | X | |
| Sut i ymdrin â phrydlesi yn y system gofrestru | Canolradd/uwch | X | |
| Gwarchod buddion eiddo'ch cleientiaid pan fydd perthynas yn chwalu (Awr) | Canolradd/uwch | X | |
| Gwarchod buddion eiddo'ch cleientiaid pan fydd perthynas yn chwalu (2 awr) | Cyflwyniad | X | |
| Gwarchod buddion eiddo'ch cleientiaid pan fydd perthynas yn chwalu (2 awr 30 munud) | Canolradd | X | |
| Materion cleient preifat a'r Gofrestrfa Tir (Awr 30 munud) | Canolradd/uwch | X | |
| Materion cleient preifat a'r Gofrestrfa Tir (2 awr) | Cyflwyniad | X | |
| Materion cleient preifat a'r Gofrestrfa Tir (3 awr) | Canolradd | X | |
| Meddiant gwrthgefn (2 awr 30 munud) | Canolradd/uwch | X | |
| Meddiant gwrthgefn (3 awr) | Canolradd | X | |
| Dysgu sut i gofrestru trosglwyddiad o dan bwer gwerthu a deall yr hyn sy'n digwydd i gofnodion presennol y gofrestr (Awr 30 munud) | Cyflwyniad/Canolradd | X | X |
| Tir digofrestredig a cheisiadau am gofrestriad cyntaf (2 awr 30 munud) | Cyflwyniad/Canolradd | X | |
| Cofrestriad cyntaf: sut i gyflwyno cais effeithiol (Awr 15 munud) | Cyflwyniad/Canolradd | X | |
| Datblygu gyda ni (Awr 40 munud) | Canolradd | X | |
| Pynciau nad ydynt yn rhai DPP | |||
| Cyflwyniad i wybodaeth y Gofrestrfa Tir (2 awr) | Cyflwyniad | X | |
| Datblygu gwybodaeth o'r Gofrestrfa Tir (2 awr 30 munud) | Canolradd/uwch | X | |
| Dysgu sut i warchod gorchmynion tâl ar y gofrestr trwy gofnodi rhybudd neu gyfyngiad (Awr) | Canolradd/uwch | X | |
| Arwystlon o dan Ddeddfau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Awr 30 munud) | Canolradd/uwch | X | |
| Deall gwybodaeth am gofrestru tir (gweithdy hanner diwrnod) | Canolradd/uwch | X | |