Amserlen

Rydym yn cynnig seminarau mewnol a modiwlau ar-lein sydd wedi'u hachredu gydag oriau DPP o dan gynlluniau Cymdeithas y Cyfreithwyr, ILEX a Chyngor Trawsgludwyr Trwyddedig.

Seminarau mewnol

Hyfforddiant a gyflwynir ar eich safle gan arbenigwyr fel y gallwch chi a'ch cydweithwyr ddysgu'n hamddenol gyda'ch gilydd ac fel y gallwch ennill oriau DPP achrededig lle y bo'n briodol. Mae seminarau mewnol ar gael ar unrhyw adeg drwy gydol y flwyddyn.

Gallwch gyfuno pynciau i greu sesiwn diwrnod llawn neu sesiwn hanner diwrnod.

Modiwlau ar-lein

Maent wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg fel y gellir eu cwblhau mewn sesiwn unigol, neu eu rhannu dros nifer o sesiynau.

Pwnc Oriau achrededig DPP
Sut i ddelio â phrydlesi yn y system gofrestru 2
Dysgu sut i gofrestru a throsglwyddo o dan bŵer gwerthu a deall beth sy'n digwydd i gofnodion cofrestr presennol 2
Deall pwysigrwydd defnyddio cynlluniau da wrth gofrestru tir 2
Dysgu sut i warchod hawddfreintiau eich cleientiaid yn effeithiol ar y gofrestr 2
Dysgu sut i fanteisio ar gyfyngiadau a rhybuddion - eiddo preswyl 2
Deall arwyddocâd ystadau cyfreithiol a budd ecwitïol ym maes trawsgludo 2
Gwarchod buddiannau eiddo eich cleientiaid pan fydd cydberthynas yn dirywio 2
Materion cleient preifat a'r Gofrestrfa Tir 2

Oes gennych ddiddordeb?  Yna archebwch le.

Diweddarwyd diwethaf: 12 Hydref 2010