Newidadau neu ychwanegiadau

Diwygiadau i'r datganiad cymuned cyfunddaliad

Gellir diwygio'r datganiad cymuned cyfunddaliad ar ôl sicrhau cytundeb yr holl rai sydd â budd ynddo, ond rhaid llunio datganiad cymuned cyfunddaliad newydd a'i gyflwyno i'r Gofrestrfa Tir oherwydd ni chaiff unrhyw effaith nes y caiff ei gofrestru. Rhaid cyflwyno ffurflen CM3 y Gofrestrfa Tir.

Yn ogystal, rhaid darparu tystysgrif gan y cyfarwyddwyr bod y diwygiad yn bodloni'r gofynion statudol.

Ychwanegu tir at y cyfunddaliad

Gellir ychwanegu tir at y cyfunddaliad ar yr amod bod yr holl rai sydd â budd ynddo yn cytuno â'r newid. Yn yr un modd, dim ond ar ôl sicrhau cydsyniad yr holl rai sydd â budd ynddi y gellir newid maint uned.

Yn y ddau achos, rhaid llunio datganiad cymuned cyfunddaliad newydd a chyflwyno dau gopi i'r Gofrestrfa Tir. Rhaid cyflwyno ffurflenni CM3 a CM4 y Gofrestrfa Tir. Os bydd maint uned yn newid ac os yw'n ddarostyngedig i arwystl, rhaid llenwi ffurflen COE y Gofrestrfa Tir hefyd.

Mae'r dudalen nesaf yn trafod y dogfennau y mae'n rhaid eu cyflwyno gyda chais i gofrestru cyfunddaliad gyda'r Gofrestrfa Tir.