Cymeradwyo'r cynllun cyfunddaliad
Cymeradwyo'r cynllun cyfunddaliad
Gellir anfon y cynllun sy'n ffurfio rhan o'r datganiad cymuned cyfunddaliad (y cynllun) i'r Gofrestrfa Tir er mwyn ei 'gymeradwyo' ar yr amod bod y rhydd-ddaliad wedi'i gofrestru – ni ellir cymeradwyo'r cynllun cyn cofrestru'r rhydd-ddaliad. Bydd angen darparu dau gopi o'r cynllun.
Ni cheir unrhyw ffurflen gais na ffi am y gwasanaeth hwn. Derbynnir llythyr eglurhaol a dylai hwn gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- naill ai cadarnhad bod y datblygiad wedi cychwyn, a'r dyddiad cwblhau tebygol, neu
- pryd y bydd y datblygiad yn dechrau a'r dyddiad cwblhau tebygol a
- phryd y caiff y DCC ei gyflwyno.
Rhaid seilio'r cynllun ar arolwg cywir, rhaid ei bod yn bosibl ei gysoni â manylion yr Arolwg Ordnans ac wedi'i dynnu i raddfa a ddyfynnir.Y raddfa ddewisol yw 1/500, er bod 1/1250 yn dderbyniol os gellir gweld maint pob uned yn eglur. Ni ddylai'r cynllun fod ar bapur sy'n fwy na maint A0.
Nid yw defnyddio'r termau "at ddibenion adnabod yn unig" neu "ni ddylech dynnu graddfa o'r llun hwn" yn dderbyniol. Ni ddylai'r cynllun ddangos unrhyw ymwadiad ynghylch ei gywirdeb ychwaith.
Gofynion eraill:
- rhaid i'r holl ddimensiynau fod yn fetrig
- rhaid dangos terfynau'r tir cyfunddaliol mewn perthynas â therfynau'r teitl rhydd-ddaliol
- rhaid dangos terfynau'r unedau mewn perthynas â therfynau'r tir cyfunddaliol
- dylid defnyddio cyfeirnodau lliw i ddiffinio maint pob uned
- rhaid dangos llwybrau a thramwyfeydd os ydynt yn rhan o derfyn uned, ac
- mae'n rhaid dangos rhif pob uned a'i lefel o ran llawr.
Mae'r dudalen nesaf yn ystyried ceisiadau gwasanaethau rhagarweiniol (Chwilio'r Map Mynegai, Copïau Swyddogol a Chwiliadau Swyddogol).