Trosi rhydd-ddaliadau

Cofrestrir eiddo sydd wedi'i drosi o rydd-ddaliadau dan adran 9 y Ddeddf. Yn yr un modd â throsi lesddaliadau, cyfeirir at hyn yn y Ddeddf fel cofrestru gydag uned-ddalwyr.

Gallai'r math hwn o drosi godi, er enghraifft, pan fydd perchnogion eiddo rhydd-ddaliol sy'n bodoli eisoes yn gwneud cais am statws cyfunddaliad oherwydd bod ganddynt gyfleusterau cymunedol megis ffyrdd, llwybrau neu wasanaethau ac ati a rennir, y maent yn dymuno ffurfioli'r gwaith o'u rheoli. Byddai ystad fach adwyog o dai yn enghraifft nodweddiadol.

Dim ond gyda chytundeb pawb sydd â budd yn yr eiddo y gellir trosi i gyfunddaliad. I greu teitl cyfunddaliol ar gyfer y rhannau cyffredin, efallai y bydd yn rhaid i rai o'r perchnogion rhydd-ddaliad sy'n bodoli eisoes, neu bob un ohonynt, roi'r gorau i rywfaint o'u teitl, megis pan fyddant yn berchen ar ran o ffordd yr ystad, neu efallai y bydd angen iddynt brynu tir gan rywun arall i greu'r rhannau cyffredin. Yn yr achosion hyn, bydd angen sicrhau cytundeb a chydweithrediad yr holl rai yr effeithir arnynt.

Yn yr un modd ag sy'n digwydd gyda'r ddau fath arall o gyfunddaliad, defnyddir y datganiad cymuned cyfunddaliad gan y Gofrestrfa Tir i baratoi'r teitlau cofrestredig angenrheidiol. Caiff y teitlau rhydd-ddaliol cofrestredig sy'n bodoli eisoes o fewn y cyfunddaliad eu diwygio i gyfeirio at y tir sydd bellach yn rhan o'r cyfunddaliad.

Oherwydd y ceir uned-ddalwyr sy'n bodoli eisoes, ni cheir cyfnod trosiannol wrth drosi rhydd-ddaliadau.

Mae'r dudalen nesaf yn trafod sut y gellir terfynu cyfunddaliad.