Trosi les-ddaliadau
Mae trosi lesddaliadau yn wahanol i ddatblygiadau newydd oherwydd bod ganddynt uned-ddalwyr eisoes, h.y. lesddeiliaid sy'n bodoli eisoes. Cofrestrir eiddo sydd wedi'i drosi o lesddaliadau dan adran 9 y Ddeddf a chyfeirir atynt yn y Ddeddf fel cofrestru 'gydag uned-ddalwyr'.
Dim ond gyda chytundeb y landlord (y rhydd-ddeiliad) a phawb sydd â budd yn yr eiddo gan gynnwys y rhoddwyr benthyg, y gellir trosi i gyfunddaliad. Wrth drosi i gyfunddaliad, caiff yr holl brydlesi sy'n bodoli eisoes eu terfynu dan adran 9(3)(f) y Ddeddf.
Ar ôl cytuno i drosi, cofrestrir y gymdeithas cyfunddaliad fel perchennog y rhannau cyffredin yn syth a bydd yr uned-ddalwyr yn berchnogion eu hunedau priodol, ond gyda theitl rhydd-ddaliol bellach. Caiff y teitlau prydlesol cofrestredig eu cau.
Gellir cyfuno trosi lesddaliad gyda throsi rhydd-ddaliad pan fydd dau fath o eiddo (lesddaliad a rhydd-ddaliad) yn cyfuno i ffurfio cyfunddaliad newydd. Yn yr achosion hyn, rhaid bodloni gofynion pob trosiant ar gyfer yr eiddo priodol.
Seilir maint y rhannau cyffredin a'r unedau ar y datganiad cymuned cyfunddaliad a chaiff y cynlluniau teitl eu paratoi ar gyfer pob un.
Oherwydd y ceir uned-ddalwyr eisoes, ni cheir cyfnod trosiannol wrth drosi lesddaliad.
Mae'r dudalen nesaf yn trafod trosi rhydd-ddaliadau.