Datblygiadau Newydd
Caiff datblygiad newydd at ddibenion cyfunddaliad ei ddiffinio fel datblygiad preswyl a/neu fasnachol newydd lle y mae'r datblygwr yn gwneud cais i'w gofrestru'n gyfunddaliad. Yn ogystal, gall fod yn berthnasol i eiddo rhydd-ddaliol sy'n bodoli eisoes ac sy'n cael ei ddatblygu i fod yn eiddo preswyl a/neu fasnachol newydd, cyn ffatri yn cael ei throi'n fflatiau, er enghraifft.
Cofrestrir datblygiadau newydd dan adran 7 y Ddeddf. Cyfeirir atynt yn y Ddeddf fel cofrestru heb uned-ddalwyr. Defnyddir ffurflen CM1 i gyflwyno cais i'w gofrestru ond mae'n bosibl y bydd angen llenwi ffurflen FR1 hefyd os nad yw'r tir rhydd-ddaliol wedi'i gofrestru eisoes.
I ddechrau, cofrestrir yr holl unedau a'r rhannau cyffredin yn enw'r datblygwr. Caiff y cyfunddaliad ei greu ar ôl cwblhau'r cais i gofrestru. Cofrestrir yr unedau unigol fel teitlau ar wahân hyd yn oed cyn iddynt gael eu gwerthu i'r uned-ddalwyr. Mae hyn yn sicrhau bod y broses o gofrestru'r unedau llawer yn symlach oherwydd gellir defnyddio ffurflen TR1 pan werthir yr unedau unigol yn y pen draw. Cofrestrir y rhannau cyffredin mewn un teitl hefyd, sydd ar wahân i'r unedau. Seilir maint y rhannau cyffredin a'r unedau ar y datganiad cymuned cyfunddaliad.