Copïau swyddogol a chwiliadau
Copïau swyddogol
Gellir gwneud cais am gopïau o deitl y rhannau cyffredin neu deitl uned yn y ffordd arferol.
Teitl y rhannau cyffredin:
Dan ddarpariaeth y Rheolau, rhaid cynnwys y geiriau canlynol mewn cais am gopïau swyddogol o deitl rhannu cyffredin ym mhanel 9 ffurflen OC1:
"copi(copïau) swyddogol y gofrestr a chynllun teitl y rhannau cyffredin mewn datblygiad cyfunddaliol".
Os yw'r cais am gopi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl y rhannau cyffredin neu'r dystysgrif archwilio yn ffurflen C1, bydd y Gofrestrfa Tir bob amser yn darparu copi swyddogol o'r gofrestr a chopi swyddogol o'r cynllun teitl neu dystysgrif C1. Fodd bynnag, dim ond un ffi arbennig a godir.
Teitl uned:
Gyda theitl uned, dim ond yr hyn y gwnaethpwyd cais amdano a gyhoeddir gan y Gofrestrfa Tir. Mae'r ffi yr un fath â'r un a godir ar gyfer unrhyw gais arferol am gopi swyddfa.
Dogfennau eraill:
Gall unrhyw un wneud cais am gopïau swyddogol o'r fersiynau presennol o ddogfennau cyfunddaliad allweddol (e.e. y datganiad cymuned cyfunddaliad), dim ond iddynt dalu'r ffi briodol. Gellir cael copïau o fersiynau blaenorol o'r dogfennau allweddol hefyd, ond dylid defnyddio ffurflen OC2, a'i hanfon naill ai drwy'r post neu DX.
Chwiliadau swyddogol
Dylid cyflwyno chwiliadau swyddogol yn erbyn teitlau cyfunddaliol yn yr un modd ag y gwneir gyda theitlau eraill. Bydd y canlyniad a roddir gan y Gofrestrfa Tir yr un fath hefyd, yn ogystal â'r cyfnod blaenoriaeth a roddir gan y chwiliad.