Chwiliadau o'r map mynegai (SIMs)
Chwiliadau o'r map mynegai (SIMs)
Mae'r angen i gyflwyno cynllun gyda chais SIM yr un fath ag y mae ar gyfer unrhyw gais SIM arall.
Rhannau Cyffredin:
Mewn cais SIM ar gyfer y tir a fydd yn ffurfio'r rhannau cyffredin, bydd y Gofrestrfa Tir yn datgelu'r wybodaeth ganlynol:
- rhif teitl y rhannau cyffredin
- rhifau teitl yr holl unedau yn y datblygiad cyfunddaliol
- rhif(au) teitl unrhyw deitlau eraill sydd o fewn y cyfunddaliad, e.e. lesddaliad a phroffidiau
- unrhyw deitl rhydd-ddaliol neu brydlesol arall nad yw'n rhan o'r datblygiad cyfunddaliol ond sy'n cael ei gynnwys o fewn ei derfynau daearyddol, er enghraifft rheilffyrdd tanddaearol, gweithfeydd cloddio ac ati.
DS 1: Mae'r canlyniad yn cynnwys rhifau teitl yr unedau oherwydd eu bod yn rhan annatod o'r cyfunddaliad.
DS 2: Codir ffïoedd SIM arferol ar gyfer chwiliad o'r map mynegai mewn perthynas â theitlau cyfunddaliadol. Fodd bynnag, gellir cyfyngu'r canlyniad ac osgoi'r ffi ychwanegol os yw'r cais yn gwneud cais penodol i eithrio teitlau'r unedau o'r canlyniad.
Teitl Unedau:
Mewn cais SIM ar gyfer tir sy'n uned mewn datblygiad cyfunddaliol, bydd y Gofrestrfa Tir yn datgelu:
- rhif teitl yr uned honno; a
- rhif teitl y tir sy'n rhannau cyffredin.
- rhif(au) teitl unrhyw deitlau eraill sydd o fewn terfynau'r uned, e.e. lesddaliad a phroffidiau.